Wrthi'n cyflenwi ynni ar gyfer y dyfodol

Mae Abergelli Power Limited (APL), un o is-gwmnïau Drax Group, yn dymuno adeiladu gorsaf bŵer nwy ar dir a leolir yn Fferm Abergelli, i’r de o Felindre, wrth ymyl Gorsaf Gywasgu Nwy y Grid Cenedlaethol ac i’r gogledd o draffordd yr M4.

Mae’r Prosiect yn cynnwys gwaith cynhyrchu pŵer a’i gysylltiadau trydanol a nwy. Byddai gan y Prosiect allbwn trydanol o hyd at 299MW. Dyluniwyd y gwaith cynhyrchu ynni i ddarparu gallu cynhyrchu wrth gefn sy’n gallu ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i amrywiaeth mewn galw gan gwmseriaid yn y tymor byr ac allbwn ysbeidiol cynhyrchu pŵer adnewyddadwy. Disgwylir y bydd yn weithredol am hyd at 1,500 o oriau fesul blwyddyn.

Yn amodol ar ymgynghori â’r cyhoedd, cynllunio a chyllid, gallai’r Prosiect ddechrau gweithredu’n fasnachol yn 2022.

Ar 25 Mai 2018, cyflwynwyd cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) i’r Arolygiaeth Gynllunio. Derbynwyd y cais i’w archwilio ar 21 Mehefin 2018. Cynhelir ymgynghoriad ychwanegol ynghylch dogfennau’r cais gan yr Arolygiaeth Gynllunio a gwahoddir aelodau o’r cyhoedd ac ymgynghoreion statudol i gyflwyno sylwadau ynghylch y prosiect a chofrestru i gyfranogi yn y broses archwilio. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am y broses archwilio.  Sylwer bod yn rhaid cyflwyno pob sylwad erbyn 2 Awst 2018.

Y prosiect

Byddai prosiect Pŵer Abergelli yn cael ei leoli ar dir yn rhan ogleddol Dinas a Sir Abertawe, oddeutu 1km i’r de-ddwyrain o Felindre, , 760m i’r gorllewin o Lwyncelyn ac 1.4km i’r gogledd o Langyfelach. Lleolir safle’r prosiect arfaethedig (cyfeirnod grid 265284, 201431) o fewn caeau a ddefnyddir ar gyfer pori, wedi’i ffinio gan gymysgedd o ffosydd draenio, ffensys a gwrychoedd darfodedig. Mae llawer iawn o seilwaith cyfleustodau yn yr ardal. Mae piblinellau nwy a dŵr yn croesi safle’r Prosiect ac hefyd mae rhwydwaith o beilonau trydan yn yr ardal ehangach.

Manylion allweddol am y Prosiect

Byddai prif elfennau’r Prosiect arfaethedig yn cynnwys:

  • Gwaith brig pŵer Tyrbin Nwy Cylch Agored (OCGT) newydd, a elwir hefyd yn Dyrbin Nwy Cylch Syml, wedi’i gynllunio i ddarparu hyd at 299 Megawat (MW) o drydan.
  • Adeiladu piblinell newydd o dan y ddaear i ddod â nwy naturiol i’r gwaith cynhyrchu pŵer o’r System Drosglwyddo Nwy Genedlaethol bresennol sydd wedi’i lleoli gerllaw.
  • Adeiladu cysylltiad trydanol tanddaearol newydd i allforio trydan o’r gwaith cynhyrchu pŵer i’r is-orsaf drydan bresennol yng Ngogledd Abertawe a leolir gerllaw.

Ystyrir y Gwaith Cynhyrchu yn Brosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol, sy’n golygu bod angen Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) i’w adeiladu, ei weithredu a’i gynnal.

Caiff y Cais am DCO ei archwilio gan yr Arolygiaeth Gynllunio a fydd yn gwneud argymhelliad i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn penderfynu ar y cais ar ôl derbyn argymhelliad gan yr Arolygiaeth Gynllunio. Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n cymryd oddeutu chwe mis i archwilio cais ar ôl iddo gael ei gyflwyno.

Mae Deddf Cynllunio (PA 2008) yn cyfyngu ar ddatblygiad cysylltiedig y gellir ceisio caniatâd amdano o dan DCO yng Nghymru i ddatblygiad a gysylltir â gorsaf gynhyrchu â chapasiti sy’n fwy na 350 MW. Byddai gan y Gwaith Cynhyrchu Pŵer allbwn trydanol graddedig o hyd at 299 MW, felly ni ellir cynnwys datblygiad cysylltiedig â’r Gwaith Cynhyrchu Pŵer mewn unrhyw gais ar gyfer DCO o dan Ddeddf 2008. Felly, mae’r cais am DCO yn cynnwys y Gwaith Cynhyrchu a lliniaru cysylltiedig fel “datblygiad awdurdodedig” yn unig ac nid yw’n ceisio caniatâd datblygu ar gyfer y Cysylltiad Nwy neu’r Cysylltiad Trydanol.

Bydd APL yn ceisio caniatâd cynllunio ar gyfer y Cysylltiadau Nwy a Thrydan o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“TCPA 1990”). Caiff ceisiadau ar gyfer y ddau eu cyflwyno yn nhrydydd chwarter 2018.

Cynllunio ac Ymgynghori

Mae ymgynghori â’r cyhoedd yn rhan annatod o’r broses gynllunio ac mae wedi bod yn elfen bwysig o waith APL ers i’r prosiect gael ei gyhoeddi gyntaf yn 2014. Mae ymgynghoriadau’r prosiect â’r gymuned leol, gwleidyddion lleol, grwpiau a sefydliadau perthnasol eraill, wedi’u cynllunio i ddiwallu’r holl ofynion cyfreithiol ac maent wedi’u seilio ar amrediad o gyngor a chyfarwyddyd.

Cafwyd sawl cyfle i ystyried a chyflwyno sylwadau am y prosiect.

Ymgynghoriad Cam 1 (2014)

Dechreuodd yr Ymgynghoriad Anstatudol ym mis Mehefin 2014, gan gynnwys tair arddangosfa a gynhaliwyd yn lleol i gyflwyno’r prosiect i bobl sy’n byw’n agos iddo. Yn dilyn hyn, cafwyd cyfnod o Ymgynghori Statudol ym mis Hydref/Tachwedd 2014, lle cynhaliwyd arddangosfeydd yng Nghlydach, Llangyfelach, Tircoed a Felindre, ynghyd â chyfarfodydd â chynghorau cymuned a chynghorwyr o Gyngor Dinas a Sir Abertawe.

Ymgynghoriad Cam 2 (2018)

Cynhaliwyd cyfnod o Ymgynghori Statudol rhwng Ionawr yr 16eg a Chwefror y 19eg 2018. Cynhaliwyd arddangosfeydd cyhoeddus eto yng Nghlydach, Llangyfelach, Tircoed a Felindre i ddiweddaru pobl sy’n byw’n agos i’r prosiect a’i gyflwyno i unrhyw un nad oedd wedi cyfranogi yn ymgynghoriad 2014. Yn ystod Cam 2 yr Ymgynghoriad, cynhaliwyd cyfarfodydd â chynrychiolwyr lleol amrywiol, ymgynghoreion statudol a rhanddeiliaid eraill – roedd y cyfarfodydd hyn yn rhan o’r ymgynghori statudol ac anstatudol.

Datganiadau ynghylch Ymgynghori â’r Gymuned

Cytunwyd ar Ddatganiad o Ymgynghoriad Statudol (SoCC) 2014 y prosiect â Chyngor Dinas a Sir Abertawe a chytunwyd hefyd ar Ddatganiad o Ymgynghoriad Statudol diwygiedig ar gyfer 2018 â’r cyngor lleol.

Cafodd SoCC 2014 a 2018 eu cyhoeddi yn y wasg leol a’u rhyddhau ar y wefan hon. Roedd yr SoCC a gwybodaeth arall am y prosiect hefyd ar gael mewn llyfrgelloedd lleol yn ystod y ddau gyfnod ymgynghori.

Mae holl fanylion yr ymgynghoriad wedi’u cynnwys yn Adroddiad yr Ymgynghoriad a gyflwynwyd gyda’r cais a gellir ei weld ar wefan yr Arolygiaeth Gynllunio (PINS).

Ymrwymiadau

Mae Abergelli Power yn brosiect cynhyrchu pŵer a all helpu i gefnogi diogelwch ynni’r DU yn y dyfodol a sicrhau bod y wlad yn diwallu ei thargedau ar gyfer allyriadau carbon isel. Gwneir pob ymdrech i sicrhau’r effaith leiaf ar yr amgylchedd tra caiff ei adeiladu a’i weithredu.

Yr amgylchedd

Cyflwynwyd yr Asesiad o Effaith Amgylcheddol (EIA) ar y datblygiad arfaethedig fel rhan o gasgliad o ddogfennau a oedd ynghlwm â’r cais am ganiatâd datblygu.  Ystyriodd yr EIA effeithiau amgylcheddol sylweddol tebygol prosiect Abergelli Power. Ystyriwyd materion fel sŵn, allyriadau i’r aer, ecoleg, effaith weledol, archeoleg a thraffig a chludiant. O dan Reoliadau EIA, rhyddhawyd adroddiad amgylcheddol cychwynnol diwygiedig ar gyfer proses ymgynghori 2018.

Cynorthwyodd yr adborth o ymgynghoriadau 2014 a 2018 wrth lywio’r EIA manwl ar gyfer prosiect Pŵer Abergelli. Mae’r EIA yn rhan ganolog o gais am ganiatâd datblygu a bydd yn llywio argymhelliad yr Arolygiaeth Gynllunio a phenderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol.

Budd i’r Gymuned

Gall prosiect Abergelli Power gynnig amrywiaeth o fuddion i’r ardal yn ystod y cyfnodau adeiladu a gweithredu fel ei gilydd. Bydd y gwaith adeiladu’n para tua dwy flynedd a bydd yn cynnal hyd at 150 o swyddi.

Disgwylir i’r Gwaith Pŵer fod ag oes weithredol o 25 mlynedd o leiaf, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, bydd angen hyd at 15 o weithwyr llawn amser i gyfrannu at reoli a chynnal a chadw’r gwaith.

Bydd y buddsoddiad hwn hefyd yn cynnal swyddi anuniongyrchol yn y gymuned leol mewn meysydd megis cynnal a chadw cyfleusterau a gwasanaethau cymorth eraill. Cyflwynwyd astudiaeth fanwl o effaith economaidd a chymdeithasol fel rhan o’n cais cynllunio.

Cyfleoedd

Gwahoddir busnesau lleol ac unigolion sydd â diddordeb mewn gweithio yn y gwaith naill ai yn ystod ei adeiladu neu ei weithredu ac a hoffai gael eu hysbysu am ddatblygiadau ynghylch y prosiect i gysylltu ag Abergelli Power trwy info@abergellipower.co.uk

Newyddion

12 October 2018 - Examination Process Starts

21 June 2018 - Application for £80-90m gas fired power station accepted for examination by the Planning Inspectorate

21 June 2018 - Development Consent Order acceptance

29 May 2018 - Cyflwyno Cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu i’r Arolygiaeth Gynllunio

2 January 2018 - Local people to be consulted on plans for gas-fired power station

Dogfennau Allweddol

19 September 2018 - Abergelli Power DCO Examination First Issue Specific Hearing Notice (WELSH)

6 August 2018 - Town and Country Planning Application documents

21 June 2018 - Development Consent Order (DCO) documents

12 February 2018 - Public exhibition boards

12 February 2018 - Public exhibition boards - overview of project

29 January 2018 - Gorsaf bŵer arfaethedig yn Fferm Abergelli

16 January 2018 - Preliminary Environmental Information Report

16 January 2018 - No Significant Effects Report

16 January 2018 - Non-Technical Summary (Welsh)

12 January 2018 - Abergelli Power taflen ymgynghori

2 January 2018 - Datganiad ynghylch Ymgynghori â'r Cyhoedd

2 January 2018 - Hysbysiad am Ddatganiad ynghylch Ymgynghori â'r Gymuned

2 January 2018 - Summary of 2014 consultation activities

Cysylltu â Ni

Abergelli Power Ltd
49 York Place, Caeredin EH1 3JD
Ffôn: 01792 957 026
E-bost: info@abergellipower.co.uk

Holl ymholiadau’r cyfryngau, cysylltwch â:

Grasshopper PR
Clare Jones
Ffôn: 02921 675482
E-bost: clare@grasshopperpr.co.uk

S 07793 382021

Cwestiynau cyffredin

Datblygu’r Prosiect 

C1. Pam ydych yn cynnig adeiladu gorsaf bŵer nwy yn Fferm Abergelli?

A1. Ar ôl cynnal astudiaethau amrywiol ledled y wlad dros gyfnod o bedair blynedd, rydym yn ystyried bod Fferm Abergelli yn safle delfrydol. Mae ganddo ddwy fantais allweddol:

  • Agosrwydd at y rhwydweithiau dosbarthu nwy a thrydan cenedlaethol.
  • Wedi’i leoli yn ardal strategol y Grid Cenedlaethol ar gyfer cynhyrchu trydan newydd – sydd o ganlyniad i’r twf yn y galw am drydan yn y rhanbarth.

C2. Beth sy’n cael ei gynnig?

A2. Rydym yn cynnig gorsaf bŵer nwy a fydd yn cynhyrchu trydan o nwy naturiol – wedi’i gynllunio fel ‘gwaith cynhyrchu cyfnod brig’ a byddai’n gweithredu am hyd at uchafswm o 2,250 o oriau mewn unrhyw flwyddyn benodol, ar yr amod a fydd y cyfartaledd treigl 5 mlynedd yn fwy na 1,500 o oriau’r flwyddyn;

Mae’r cynigion yn cynnwys:

  • Gwaith Cynhyrchu Pŵer sydd ag allbwn trydanol wedi’i raddio o hyd at 299 MW. Bydd gan y gwaith un stac hyd at 45 medr o uchder, sydd oddeutu’r un uchder â’r tyrau trosglwyddo gerllaw;
  • Ffordd Fynediad i Safle’r Prosiect, a ffurfir trwy ymestyn ffordd fynediad bresennol o’r B4489;
  • Darpariaeth o Llecyn Storio i’w ddefnyddio dros dro yn ystod y gwaith adeiladu, a Chwrt Cynnal a Chadw parhaol; a
  • Chysylltiad trydan tanddaearol newydd (hyd at 1km o ran hyd) â System Trawsyrru’r Grid Cenedlaethol gerllaw ac adeiladu piblinell danddaearol newydd (hyd at 1.4km o ran hyd) i ddod â nwy naturiol i’r Gwaith Cynhyrchu Pŵer o’r System Trawsyrru Nwy Genedlaethol.

Mae gan yr orsaf bŵer oes ddisgwyliedig o 25 mlynedd.

C3.  Pam cafodd y prosiect ei atal dros dro yn 2014 a’i ail-ddechrau yn 2017?

A3. Yn wreiddiol aed â’r prosiect trwy gamau cyntaf y broses o ymgeisio am Orchymyn Caniatâd Datblygu (“DCO”) yn 2014, pan ymgynghorwyd â’r gymuned a rhanddeiliaid ar y cynnig. Fodd bynnag, ym mis Mawrth 2015, cafodd y prosiect ei atal dros dro oherwydd ansicrwydd ynghylch y farchnad.

Fodd bynnag, mae angen yn dal i fodoli i orsafoedd pŵer nwy newydd gael eu hadeiladu yn y wlad hon, a chan gydnabod yr angen cenedlaethol hwn, mae’r cwmni o’r DU, Drax Group ccc, wedi caffael prosiect APL yn ddiweddar ac mae’n cynnal ymgynghoriad cyn cyflwyno cais am DCO i’r Arolygiaeth Gynllunio yn 2018.

C4. Pa gamau fyddwch chi’n eu cymryd i warchod yr amgylchedd lleol?

A4. Gwneir pob ymdrech i leihau effaith y prosiect ar yr amgylchedd lleol, tra caiff ei adeiladu a’i weithredu. Mae ei gynllun a’r camau i liniaru ei effeithiau, megis sgrinio a thirweddu, yn rhan o’r broses ymgynghori a chynllunio.

Rydym wedi lleihau nifer y staciau ffliw nwy llosg o bump i un, a fydd yn lleihau effaith weledol y prosiect. Hefyd rydym wedi dewis llwybr mynediad o’r B4489, a fydd yn lleihau’r effaith ar ffyrdd lleol.

C5. A yw Abergelli Power Ltd wedi adeiladu gorsaf bŵer nwy mewn man arall?

A5. Abergelli Power Ltd yw enw cwmni’r prosiect. Mae’n eiddo i Drax Group ccc, un o brif gwmnïau ynni’r DU. Mae Drax Group, sy’n cynnal 18,500 o swyddi yn y DU ac ôl troed economaidd o bron i £1.7 biliwn ledled y wlad, wedi uwchraddio gorsaf bŵer fwyaf y DU yn gynhyrchydd a bwerir yn bennaf gan fiomas. Mae Gorsaf Bŵer Drax yn cynhyrchu digon o drydan adnewyddadwy i bweru oddeutu pedwar miliwn o gartrefi ledled y wlad. Hefyd mae Drax yn datblygu tri phrosiect gwaith pŵer nwy arall sy’n ymateb yn gyflym yng Nghymru a Lloegr, ac mae caniatâd cynllunio eisoes wedi’i sicrhau ar gyfer dau ohonynt eisoes ac maent yn symud ymlaen at y cyfnod peirianneg ac adeiladu.

Mae Stag Energy wedi’i gontractio gan Drax i gymryd cyfrifoldeb am brosiect Abergelli Power hyd at y caniatâd cynllunio. Roedd tîm Stag Energy yn rhan o’r ymgynghoriadau lleol yn 2014/2015. Cefnogir ei waith gan nifer o gwmnïau arbenigol.

C6. Pam mae’r Gorsaf Bŵer yn cael ei gynnig fel ‘gwaith ar gyfer galw brig’ yn unig?

A6. Mae cymysgedd cynhyrchu’r DU yn newid yn gyflym ac mae’r gofyniad am nifer fawr o weithfeydd galw brig, dibynadwy hyblyg iawn megis Gorsaf Bŵer Abergelli yn llwyr gefnogi proses bontio’r DU i economi carbon isel.

Mae Gorsaf Bŵer Abergelli wedi’i chynllunio i redeg dros gyfnodau byr o amser i ddarparu pŵer wrth gefn ar adegau o straen ar y rhwydwaith trydan. Rydym wedi ystyried economeg gweithredu’r gwaith yn ofalus ac yn credu bod hwn yn brosiect dichonadwy a fydd yn darparu cyfraniad gwerthfawr i anghenion ynni’r DU.

C7. Beth fydd effaith y prosiect ar draffig lleol?

A7. Bydd traffig cerbydau nwyddau trwm yn ystod y cyfnod adeiladu o ddwy flynedd ond byddai’n cael ei drefnu i leihau tagfeydd, sŵn a baw yn yr ardal leol. Yn dilyn yr ymgynghoriad yn 2014, cymerwyd y penderfyniad i ddewis llwybr i’r safle o’r B4489. Caiff mynediad i’r orsaf bŵer ei ffurfio trwy uwchraddio ffordd fynediad bresennol rhwng cyffordd B4489 ac Isorsaf Gogledd Abertawe ac adeiladu Ffordd Fynediad newydd o’r isorsaf i’r safle. Ar ôl dechrau gweithredu, bydd cynnydd dibwys mewn symudiadau traffig, yn bennaf cyflogeion yr orsaf (hyd at 15 o bobl) yn teithio i’r gwaith ac oddi yno.

C8. Pa mor swnllyd fydd yr orsaf bŵer?

A8. Er na ddylai trigolion lleol glywed y gwaith pan fydd yn rhedeg (a bydd yn rhedeg yn bennaf yn y gaeaf pan fydd drysau a ffenestri pobl ar gau), bydd y sŵn a gynhyrchir wrth weithredu’r gwaith pŵer yn cael ei gyfyngu’n gaeth gan ofynion y Gorchymyn Caniatâd Datblygu (yn debyg i amodau cynllunio), a fydd yn cael eu gorfodi gan yr awdurdod lleol a’r terfynau a osodir gan Gyfoeth Naturiol Cymru (NRW).

Gwnaed gwaith modelu sŵn i ganfod y lefelau sŵn cefndirol presennol ac mae’r lefelau sŵn nodweddiadol o waith nwy wedi cael eu modelu ar ben hynny er mwyn pennu’r effeithiau tebygol. Adroddir canlyniadau’r asesiadau hyn yn yr Adroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol Rhagarweiniol ac ni ragwelir unrhyw effeithiau sylweddol ar hyn o bryd.

C9. A fydd unrhyw allyriadau o’r orsaf bŵer?

A9. Gallai pluen sy’n cynnwys anwedd dŵr yn bennaf fod yn weladwy o stac yr orsaf bŵer ond dim ond o dan amodau atmosfferig penodol (oer a sych â phwysedd uchel); nid yw hyn yn ‘fwg’. Bydd yr allyriadau o’r stac yn cael eu cyfyngu’n llym gan Gyfoeth Naturiol Cymru fel rhan o drwydded amgylcheddol weithredol, ac ni fyddant yn cael unrhyw effaith sylweddol ar bobl na’r amgylchedd.

Bydd y stack hefyd yn allyrru rhywfaint o garbon deuocsid (CO2). Fodd bynnag, disgwylir y bydd Gorsaf Bŵer Abergelli yn rhedeg dim ond i uchafswm o 2,250 o oriau mewn unrhyw flwyddyn benodol, cyhyd â na fydd y cyfartaledd treigl ar gyfer pum mlynedd yn fwy na 1,500 awr. Byddai hyn ar adegau pan nad yw dulliau carbon is o gynhyrchu pŵer ar gael oherwydd natur ysbeidiol neu alw uchel, megis pan nad oes digon o wynt, haul, ar adegau brig neu ar ddiwrnodau oer iawn.

Cynllunio ac ymgynghori

C1. Pwy fydd yn penderfynu a ddylid adeiladu Gorsaf Bŵer Abergelli?

A1. Bydd y prosiect yn cynhyrchu hyd at 299 MW o drydan, felly fe’i ystyrir yn brosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP) o dan Ddeddf Cynllunio 2008, sy’n golygu bod angen Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) i’w adeiladu, i’w weithredu a’i gynnal. Cyflwynir cais am DCO i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (yr “Ysgrifennydd Gwladol”) trwy’r Arolygiaeth Gynllunio.  Caiff y cynigion eu harchwilio gan Awdurdod Archwilio (a benodir gan yr Ysgrifennydd Gwladol), a fydd yn gwneud argymhelliad ynghylch penderfyniad gan yr Ysgrifennydd Gwladol.  Bydd Cyngor Abertawe yn ymgynghorai allweddol yn y broses gynllunio ac ymgynghori, ynghyd â’r cynghorau cymuned yn y cyffiniau a sefydliadau lleol eraill.

Yn achos gorsafoedd cynhyrchu yng Nghymru sydd â chapasiti cynhyrchu is na 350MW, mae Deddf Cynllunio 2008 yn cyfyngu ar yr hyn y gellir gwneud cais amdano drwy’r broses DCO i ddatblygiad sy’n rhan annatod o’r NSIP ac yn ffurfio rhan ohono. Felly gwneir cais am y Gwaith Cynhyrchu Pŵer, y Llecyn Storio/Cwrt Cynnal a Chadw a’r Ffordd Fynediad trwy’r broses DCO.

Bydd cais ar wahân i adeiladu a gweithredu’r cysylltiadau nwy neu drydanol yn cael ei gyflwyno i Gyngor Abertawe neu byddwn ni’n defnyddio hawliau datblygu a ganiateir os bydd hynny’n gymwys. Fodd bynnag, os bydd angen caffael gorfodol ar gyfer y tir a’r hawliau i’n galluogi i adeiladu, gweithredu a chynnal y cysylltiadau nwy a thrydanol, cynhwysir y rhain o fewn y cais am DCO.

 C2. Sut wnaeth yr ymgynghoriad yn 2014 ddylanwadu ar y cynigion cyfredol?

A2. Yn dilyn adborth a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad yn 2014, gwnaed nifer o newidiadau, sy’n cynnwys:

  • Leihau nifer y staciau o uchafswm o bump i un; a
  • Dewis llwybr mynediad o’r B4489 i’r gorllewin o’r Cyfarpar Cynhyrchu yn lle’r llwybr mynediad o’r gogledd.

C3. Pryd fyddwch chi’n ymgynghori ynghylch y cynigion diweddaraf?

A3. Bydd y cyfnod ymgynghori yn parhau am 35 diwrnod a bydd yn digwydd o’r 16eg o Ionawr tan y 19eg o Chwefror 2018. Fel rhan o hyn, bydd pedair arddangosfa gyhoeddus rhwng y 7fed a’r 10fed o Chwefror 2018 yn Llangyfelach, Tircoed, Clydach a Felindre.

Mae manylion am y broses ymgynghori cyhoeddus, gan gynnwys manylion yr arddangosfa, i’w gweld yn y Datganiad ynghylch Ymgynghori â’r Cyhoedd

‘r C4. A yw Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol yn cael ei wneud?

A4. Gwnaed Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (EIA) yn 2014 i asesu effeithiau amgylcheddol sylweddol tebygol prosiect Abergelli Power a gwnaed rhagor o waith ynghylch hyn yn ystod 2017. Mae’r broses EIA yn ystyried amrediad o faterion gan gynnwys sŵn, allyriadau i’r aer, ecoleg, effaith ar y tirwedd ac effaith gweledol, amgylchedd hanesyddol a thrafnidiaeth. Mae’r EIA yn rhan ganolog o’r cais cynllunio a rhaid iddo gydymffurfio â pholisïau a chanllawiau cenedlaethol a lleol. Mae Adroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol Rhagarweiniol yn rhan allweddol o’r cyfnod ymgynghori hwn ac mae ar gael i’w weld ar y wefan, mewn arddangosfeydd ac yn y llyfrgelloedd dilynol: Llyfrgell Ganolog Abertawe, Llyfrgell Clydach, Llyfrgell Gorseinon, Llyfrgell Treforys a Llyfrgell Pontarddulais – byddwch yn ymwybodol y bydd y ddogfen lawn ar gael i’w gweld ar ddisg yn y llyfrgell a bydd angen i chi naill ai fod yn aelod neu ddarparu modd adnabod i ddefnyddio cyfrifiadur y llyfrgell.

Bydd Datganiad Amgylcheddol llawn yn cyd-fynd â’r cais am ganiatâd datblygu.

C5. Pryd allech chi ddisgwyl dechrau adeiladu a gweithredu ar gyfer Gorsaf Bŵer Abergelli?

A5. Bydd y prosiect yn cymryd oddeutu dwy flynedd i’w adeiladu ac os byddwn ni’n derbyn caniatâd datblygu gan y Llywodraeth yn 2019 a chontract yn yr Arwerthiant Marchnad Galluedd yn 2019, gallem ddechrau adeiladu yn 2019/2020 a gweld y prosiect yn gweithredu yn ystod 2022.

Buddion i’r Gymuned

C1. Sut fydd yr orsaf bŵer o fudd i’r ardal leol?

A1. Gall y prosiect gynnig amrywiaeth o fuddion i’r ardal yn ystod y cyfnodau adeiladu a gweithredu fel ei gilydd.  Bydd yn creu cyfleoedd i’r gadwyn gyflenwi gan gynnwys oddeutu 150 o swyddi yn ystod cyfnod adeiladu fydd yn para am ddwy flynedd a hyd at 15 o swyddi parhaol ar ôl iddo ddod yn weithredol.  Yn ychwanegol, bydd y cyfleuster yn cyfrannu at ardrethi busnes a bydd yn gyfranogwr gweithgar yn y gymuned leol.  Mae astudiaeth fanwl o’r effaith economaidd a chymdeithasol yn cael ei pharatoi fel rhan o’r Datganiad Amgylcheddol.

C2. A fyddwch chi’n creu cronfa fuddion i gefnogi prosiectau cymunedol lleol?

A2. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu buddion i’r gymuned trwy ddatblygu addysg Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM), darparu sgiliau a chyfleoedd hyfforddi a chefnogi economi carbon isel. Byddwn ni’n parhau i ymgysylltu â Chyngor Dinas a Sir Abertawe i drafod dewisiadau ar gyfer cyflenwi’r rhain trwy gyfrwng y cynllun Tu Hwnt i Frics a Morter presennol.

Cynhyrchu nwy

C1. Pam mae arnom angen gorsafoedd pŵer nwy newydd?

A1. Mae cynhyrchu pŵer trwy losgi nwy yn fforddiadwy, yn ddibynadwy ac yn hyblyg. Mae’r Llywodraeth yn cydnabod bod prosiectau ynni nwy newydd yn hanfodol i economi carbon is, fel dewis yn lle glo, ac mae adeiladu a gweithredu gweithfeydd Tyrbin Nwy Cylch Agored (OCGT) sy’n ymateb yn gyflym gan Drax Group yn rhan o strategaeth i gefnogi system drydan sydd â lefel gynyddol o dechnolegau llai hyblyg, carbon isel ac ynni adnewyddadwy. Mae nifer o orsafoedd ynni glo, nwy a niwclear sy’n heneiddio yn cau ac mae angen capasiti newydd ar gyfer cynhyrchu pŵer thermol i helpu’r wlad i gadw ei diogelwch ynni.

Mae gweithfeydd nwy brig megis Abergelli Power wedi’u cynllunio’n benodol i ddarparu cynhyrchu pŵer wrth gefn hanfodol i ategu technolegau adnewyddadwy ysbeidiol megis tyrbinau gwynt a ffermydd solar.

Mae’r broses newydd ar gyfer cynhyrchu nwy yn rhan o gam pontio o danwyddau ffosil sy’n achosi mwy o lygreddd o’r gorffennol megis diesel, olew a glo i economi carbon isel sy’n cael ei lywio gan ynni adnewyddadwy, storio, cynlluniau sy’n rhoi cymhellion ariannol i gwsmeriaid i leihau neu newid eu defnydd o drydan ar adegau brig, a thechnolegau carbon isel eraill.

C2. Pa mor aml fydd yr orsaf bŵer yn gweithredu? A wnewch chi ystyried ymestyn yr oriau gweithredu unrhyw bryd yn y dyfodol?

A2. Rydym yn bwriadu defnyddio Tyrbinau Nwy Cylch Agored (OCGTs) i lenwi’r bylchau mewn ynni – yn y bôn troi’r switsh ymlaen a’i ddiffodd ar fyr rybudd – o fod yn oer i bŵer llawn mewn 10 munud yn unig. Rydym yn rhagweld y byddent yn rhedeg am hyd at uchafswm o 2,250 o oriau mewn unrhyw flwyddyn benodol, cyhyd â nad yw’r cyfartaledd treigl ar gyfer pum mlynedd yn fwy na 1,500 awr (oddeutu 17% o’r flwyddyn). Byddai hyn ar adegau pan fydd y system drydan dan straen yn unig. Yr uchafswm gweithredol ar gyfer gwaith Abergelli Power fydd 2,250 awr y flwyddyn ond mae modelu gan Drax Group yn tybio defnydd blynyddol llawer is bob blwyddyn. Ni fydd yn gallu cynyddu hyn oherwydd y system Drwyddedu Amgylcheddol.

Trwy ategu ynni adnewyddadwy mwy ysbeidiol, bydd gwaith Abergelli Power hefyd yn helpu i gael gwared ar ragor o orsafoedd pŵer glo o’r system.

Disgwylir i’r gwaith weithredu ar adegau o alw brig ar y system yn unig ar ddyddiau pan fydd allbwn adnewyddadwy yn isel. Mae galw brig yn y DU yn digwydd yn ystod misoedd y gaeaf rhwng 4pm a 7pm ar ddydd Llun – ddydd Gwener.

C3. Beth am ddiogelwch y prosiect pŵer?

A3. Mae gan orsafoedd pwer nwy yn y wlad hon hanes diogelwch ardderchog, ac nid ydym yn ystyried bod unrhyw faterion sy’n peri pryder ynghylch ein safle a’r cyfleusterau ynni cyfagos. Mae gan Gorsaf Bŵer Drax, sef gwaith pŵer presennol perchnogion Abergelli Power, hanes diogelwch gwell na’r cyfartaledd ymhlith gorsafoedd pŵer glo, nwy a biomas eraill.

C4. Pam Tyrbin Nwy Cylch Agored (OCGT) yn hytrach na Thyrbinau Nwy Cylch Cyfunol (CCGT)?

A4. Er bod OCGTs yn llai effeithlon na CCGTs, mae nifer o resymau pam eu bod yn parhau i fod y dewis technoleg a ffefrir ar gyfer gweithfeydd brig.

  • Hyblygrwydd – mae gan OCGT amseroedd cychwyn a chau o lai na 10 munud, tra bod technolegau cynhyrchu pŵer eraill yn cymryd llawer mwy o amser i fod yn gwbl weithredol ar y capasiti mwyaf o gyflwr oer. Mae’n ofynnol i weithfeydd brig megis OCGTs ddod ar-lein yn gyflym iawn mewn ymateb i newidiadau sydyn yn y galw neu achosion o dorri cyflenwadau gweithfeydd eraill. Hefyd maent yn addas ar gyfer cynyddu neu ostwng eu cynnyrch o fewn ychydig eiliadau, sy’n helpu Grid Cenedlaethol i sicrhau bod y grid ynni’n cael ei redeg yn esmwyth. Hefyd nid oes cyfyngiad ar sawl gwaith y gall OCGT a gynhelir yn dda gychwyn a stopio yn ystod ei oes.
  • Effaith Amgylcheddol – barn weledol/tir a ddefnyddir. Mae gweithfeydd OCGT yn llai eu maint felly maent yn lleihau faint o dir sydd ei angen ac mae ganddyn nhw staciau byrrach oherwydd bod nwyon llosg yn boethach. Mae’r ffactorau hyn yn lleihau effaith amgylcheddol gweithfeydd o’r fath.
  • Effaith Amgylcheddol – defnydd o ddŵr. Nid yw OCGTs yn defnyddio llawer iawn o ddŵr wrth weithredu’n arferol. Mae hyn yn bwysig mewn ardaloedd lle mae dŵr yn brin.
  • Ariannol – mae colledion mewn effeithlonrwydd yn cael eu gwrthbwyso’n fawr gan gost lawer rhatach adeiladu OCGT o’i chymharu ag CCGT a hefyd oherwydd y nifer isel o oriau y byddant yn weithredol (uchafswm o 2,250 o oriau o blith yr 8,760 o oriau mewn unrhyw flwyddyn benodol).

C5.  Sut allwch chi fod yn sicr bod gennych ddigon o nwy naturiol?  Onid yw mewnforio nwy o Rwsia ac ardaloedd eraill sy’n wleidyddol sensitif yn beryglus yn y bôn?

A5.  Er ei fod yn lleihau, mae gan y DU nwy o hyd ac mae digon o gronfeydd nwy o wledydd o bob rhan o’r byd, megis Norwy.